Fe fydd parti i ddathlu ei bywyd yn rhan o angladd yr actores, Iola Gregory, a fu farw’r wythnos diwetha’ yn 71 oed.

Fe fyddai hynny yn ysbryd ei chymeriad enwoca’, Jean McGurk neu Mrs Mac yn yr opera sebon Pobol y Cwm.

Ond, yn ôl ei ffrindiau, roedd yr actores hefyd wedi byw bywyd yn llawn, gyda gwaith arloesol yn y theatr cyn troi at deledu.

Hi oedd un o sylfaenwyr Theatr Bara Caws, a weddnewidiodd fyd y theatr Gymraeg yn yr 1970au.

Trefniadau

Fe fydd y gwasanaeth cyhoeddus yn cael ei chynnal yn Sgubor Gwersyll Llyn Gwynant, Nant Gwynant, am 12.00.

Yn dilyn y gwasanaeth fe fydd parti i ddathlu ei bywyd yn nhafarn y Tŷ’n Llan, Llandwrog, yn yr ardal lle’r oedd hi’n byw.

Bydd rhoddion tuag at fudiad PAWB (Pobol Atal Wylfa B) yn cael eu casglu er cof iddi.