Mae’n rhaid “meddwl am ffyrdd newydd” o ddatrys problem y ffin rhwng Iwerddon a gwledydd Prydain, yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns.

“Mae’n rhaid bod ni’n cadw undod y Deyrnas Unedig, mae hwnna’n hollbwysig; mae Gogledd Iwerddon, fel Cymru yn rhan o’r Deyrnas Unedig,” meddai wrth golwg360 yn dilyn cyfarfod gyda Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yng Nghaerdydd.

Ond mae pwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin wedi rhybuddio bod cael rhwystrau ar y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth yn edrych yn anochel ar ôl Brexit caled.

Ffin go iawn

Yn ôl y Pwyllgor dros Adael yr Undeb Ewropeaidd, fe fyddai gadael y farchnad sengl a’r undeb tollau yn golygu cael ffin go iawn rhwng y ddwy wlad.

Dydyn nhw ddim wedi’u hargyhoeddi chwaith y byddai cynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ddefnyddio technoleg i greu ffin ‘rithiol’ yn gweithio.

“Dydyn ni ddim yn gweld ar hyn o bryd sut y bydd hi’n bosib peidio cael ffin, gyda pholisi’r Llywodraeth o adael y farchnad sengl a’r undeb tollau,” meddai’r pwyllgor.

Effaith ar Gymru

Fe fyddai ffin galed yn effeithio ar Gymru – yn ôl ffigurau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fe wnaeth porthladdoedd Cymru ddelio gyda 5.5 miliwn o dunelli o nwyddau yn 2015 ac mae llawer o’r busnes yn dod o Iwerddon.

Yn ôl Grŵp Porthladdoedd Cymru, mae tua 11,000 o swyddi yng Nghymru yn y porthladdoedd neu mewn diwydiannau cysylltiedig.

Yn ôl Alun Cairns, mae’n bwysig cadw’r ardal fasnachu ddi-ffiniau sydd rhwng Cymru ac Iwerddon ac a oedd yno cyn i’r gwledydd ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.

‘Hollbwysig’

“Mae hyn yn hollbwysig i Gymru hefyd gan fod cymaint o bethau’n cael eu hallforio o Sir Benfro, o Sir Fôn i Iwerddon, ac felly dw i fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymwneud â’r trafodaethau yn y Cabinet er mwyn bod ni’n edrych ar ôl lle Cymru yn y trafodaethau gyda Gogledd Iwerddon.

“Dim ond drwy drafod drwy’r amser, fel rydym ni’n gwneud gyda Llywodraeth Cymru y gwnawn ni ddatrys y problemau a chael y cyfleoedd newydd wrth i ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd.”

  • Mae pedwar o’r wyth AS Ceidwadol ar Bwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd, ynghyd ag un AS o’r DUP wedi gwrthod yr adroddiad.