Mae arweinydd Plaid Cymru wedi rhybuddio rhag i farwolaethau pobol ddigartref yn y brifddinas gael ei “normaleiddio”.
Mae corff dynes 32 oed wedi cael ei ganfod yn un o barciau canol dinas Caerdydd, ac mae’n debyg nad oedd ganddi do uwch ei phen.
Mae nifer y bobol sy’n ddigartref yng Nghaerdydd wedi dyblu dros y tair blynedd ddiwethaf ac yn ôl amcangyfrif Llywodraeth Cymru, mae tua 83 o bobol yn cysgu ar strydoedd y brifddinas.
Cafwyd hyd i’r ddynes yng Ngerddi Alexandra ym Mharc Cathays dydd Sul, Tachwedd 25. Mae ei theulu a’r crwner wedi cael gwybod.
“Sioc i gymdeithas”
“Dylai marwolaeth dynes ifanc ar strydoedd ein prif ddinas fod yn sioc i’n cymdeithas i weithredu,” meddai Leanne Wood.
“Mae’r oerni yn mynd i fod yn fygythiad go iawn i’r sawl sydd heb gartref dros gyfnod y Nadolig. Y canlyniad gwaethaf fyddai i dderbyn y math yma o beth fel normal. Dylai fyth cael ei normaleiddio.”
Dywed bod angen “polisïau ar frys” i daclo’r broblem ac y dylid rhoi mwy o arian i gynghorau sir i ddarparu llety.
“Mae angen cyfres o fesurau ar Gymru i ddileu digartrefedd. A allwn ni wir ddweud ein bod yn gymdeithas waraidd tan ein bod ni’n gwneud hyn?”