Mae twrci yn dal i fod yn “ddewis poblogaidd” ar gyfer pryd dydd Nadolig eleni, er gwaethaf bygythiad ffliw adar, meddai gwraig o Sir Benfro a ddylai wybod.

Mae Emily Davies yn gweithio i fusnes teuluol Fferm Cuckoo Mill, Hwlffordd, lle mae miloedd o adar yn cael eu magu bob blwyddyn.

Gan ddisgwyl Nadolig prysur yn cyflenwi busnesau a chigyddion ledled Cymru, mae hi’n ffyddiog na fydd y twrci’n cael ei ddiorseddu fel prif gig cinio Dolig 2017.

“Mae feganiaeth a llysieuaeth – y trends yna – ar gynnydd, ond mewn gwirionedd canran bach iawn [o’r farchnad yw’r rhain],” meddai Emily Davies wrth golwg360. “Felly dydy hynna ddim yn cael effaith arnon ni o gwbwl.

“A dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw batrwm o bobol yn troi at gig arall – dim gyda ni, ta beth. Beth ydyn ni yn ei weld ydy newid yn y math o gynnyrch mae pobol yn prynu.”

Ond mae’r farchnad “wedi newid”, meddai wedyn, gyda phobol yn dechrau ffafrio prynu rhannau o dwrci yn hytrach nag adar cyfan.

Ffliw adar

Doedd Fferm Cuckoo Mill heb gael ei heffeithio gan y ffliw ond mae Emily Davies yn dweud eu bod wedi bod “yn lwcus iawn.”

Mae’n canmol NFU Cymru am eu cymorth wrth gyflwyno camau hylendid, ac yn canmol aelodau’r diwydiant am gefnogi ei gilydd. Ond, mae’n derbyn bydd y risg bob tro yno.

“Os ydych chi’n rhedeg busnes mae risgiau busnes mawr gyda chi – yn enwedig gydag amaethyddiaeth,” meddai. “Pob dydd, mae yna risgiau busnes. Ac yn bendant mae hynna’n parhau i fod yn risg i ni.

“Mae’n rhywbeth sy’n bendant yng nghefn y meddwl, ond allwch chi ddim ond paratoi gymaint ag y gallwch chi.

“Dydyn ni ddim wedi clywed am brinder tyrcwn, ond os fydd prinder dw i’n credu bydd digon gyda ni i helpu mas â’r sefyllfa!” meddai Emily Davies wedyn.