Mae Prif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cydnabod bod “heriau” i’w goresgyn o hyd yn dilyn cyfarfod rhwng y ddwy lywodraeth yng Nghaerdydd fore heddiw.

Wedi’r cyfarfod, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, wrth golwg360 na fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn derbyn o leiaf un o welliannau Llywodraeth Cymru i’r Mesur Brexit.

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi cyflwyno cyfres o welliannau i Mesur Ymadael yr Undeb Ewropeaidd fydd yn cael eu trafod dydd Llun yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae disgwyl 111 o gyfreithiau i ddod yn ôl o Frwsel sy’n ymwneud â meysydd datganoledig, ond dan gymal 11 yn y Mesur Ymadael, bydd y pwerau hynny’n mynd i Lundain, ac nid yn cael eu pasio ymlaen at Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cecru dros gymal 11

Mewn cyfweliad â chylchgrawn Golwg yr wythnos hon, dywed Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid Cymru, sydd hefyd yn gyfrifol am Brexit, mai’r gwelliant pwysicaf yw’r un sy’n “sicrhau” bod y pwerau’n dod yn syth i Gymru.

Ond yn ôl Alun Cairns, mesur “dros dro” fyddai hyn ac y byddai sefydlu “fframweithiau” rhwng gwledydd Prydain maes o law yn golygu bod y pwerau yn dod yn ôl i’r llywodraethau datganoledig.

“Pwrpas cymal 11 yw rhoi sicrwydd i fusnesau a chymunedau wrth i’r rheolau a deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ddod nôl i’r Deyrnas Unedig, yn amlwg mae cymal 11 yn bwysig er mwyn cyflawni’r addewid i fusnesau ac i gymunedau,” meddai.

“Wrth ein bod ni’n cytuno ar wahanol fframwaith ar gyfer amaeth, ar gyfer yr amgylchedd, mae pwysigrwydd cymal 11 wedyn yn mynd yn llai pwysig.

“Mesur dros dro yw cymal 11, mae’n rhaid bod digon o hyder i Lywodraeth Cymru er mwyn bod nhw’n gweld mai rhywbeth dros dro yw cymal 11.”

Heriau cyn i Lywodraeth Cymru allu cefnogi

Ar y cyfarfod rhyngddo ef, Carwyn Jones, a Damian Green, dirprwy Theresa May, dywedodd ei fod yn gyfarfod “adeiladol” ond bod heriau yn aros.

“Dw i wastad yn optimistig y gwnawn ni ddod i sefyllfa lle bydd y Cynulliad yn cefnogi’r mesur ond yn amlwg mae sawl her yn dal i fod ar ôl ac mi wnawn ni gydweithio i geisio’r datrys y rhain.”

Mewn datganiad gan Brif Weinidog Cymru, dywed fod y trafod wedi bod yn “fanwl a chadarnhaol am fframweithiau’r dyfodol, ac roedd hyn yn dangos bod ymgais wirioneddol ar y gweill i geisio datrys gwahaniaethau barn.”

“Yn amlwg, mae rhwystrau i’w goresgyn o hyd cyn y gall Llywodraeth Cymru argymell cefnogi’r mesur i adael yr Undeb Ewropeaidd ac roedd cydnabyddiaeth bod cyfleoedd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wneud newidiadau i’r ddeddfwriaeth arfaethedig wrth iddi basio drwy’r Senedd.”