Mae’n debyg mai pentref bach ger Llangollen yw’r cyntaf yn y byd i gael ei chysylltu i rwydwaith band eang cyflym â chymorth drôn.

Bu’n rhaid i beirianyddion ddefnyddio’r teclyn wrth geisio uwchraddio rhwydwaith Pontfadog yn Nyffryn Ceiriog oherwydd heriau’r dirwedd.

Er doedd y drôn ddim yn ddigon cryf i godi’r ceblau i ddechrau, llwyddodd y peirianyddion i ddyfeisio sustem fel bod y ddyfais yn medru codi’r gwifrau i’r awyr.

Ar sail llwyddiannau drôn Pontfadog, mae cwmni Openreach – wnaeth osod y ceblau – bellach yn ystyried hyfforddi peilotiaid drôns ledled Prydain.

Techneg

“Dydyn ni ddim yn credu bod y dechneg yma yn cael ei ddefnyddio yn unrhyw le arall yn y byd er mwyn gosod ceblau band eang,” meddai Ed Hunt, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Openreach.

“Byddwn yn edrych at y posibiliad o gopïo hyn mewn cymunedau eraill sydd mewn safleoedd tebyg.”