Mae dadl yn cael ei chynnal yn y Senedd yn San Steffan heno lle mae un o Aelodau Seneddol Plaid Cymru’n holi beth ydy dyfodol yr economi wledig yng Nghymru.

Yn cyfrannu at y ddadl gan Ben Lake mae Aelod Seneddol Maldwyn, Glyn Davies, ynghyd â David Linden, Aelod Seneddol ar ran yr SNP yn etholaeth Dwyrain Glasgow.

Mae Ben Lake wedi galw am “ddatgloi’r potensial” sy’n bodoli mewn ardaloedd gwledig gan gyfeirio’n benodol at ei etholaeth ei hun, sef Ceredigion.

Band-eang, Brexit a’r economi…

Yn y ddadl mi fydd yn cyfeirio at yr angen i wella isadeiledd digidol a chysylltiad band-eang mewn ardaloedd gwledig.

Mi fydd yn galw am fuddsoddiad “priodol a theg” i brifysgolion mewn ardaloedd gwledig gan gyfeirio’n benodol at gynnal gwaith ymchwil sefydliad IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth sy’n ymchwilio “i’r heriau byd-eang mae’r sector amaeth yn ei wynebu.”

Mae disgwyl iddo hefyd alw am gadarnhad i gysylltiad masnach wedi Brexit, dyfodol cymorthdaliadau amaeth ar ôl 2022 ynghyd â galw am adolygiad i effaith torri TAW twristiaeth.

Mi fydd y ddadl – Dyfodol yr economi wledig yng Nghymru – yn cael ei chynnal yn Neuadd San Steffan rhwng 4.30 a 5.30yh.