Mae’r cleddyf ugain troedfedd o uchder ar lan Llyn Padarn yn Llanberis wedi’i enwi’n swyddogol heddiw yn ‘Llafn y Cewri’.

Mae’r enw wedi’i ddewis gan ddisgyblion Ysgol Dolbadarn ac yn cael ei gyhoeddi yn ystod seremoni ddadorchuddio heddiw.

“Bwriad y cerflun yw codi ymwybyddiaeth ymysg ymwelwyr i’r ardal a phobol leol o hanes Gwynedd a Chymru fel cenedl,” meddai’r cynghorydd Ioan Thomas wrth gyfeirio at hanes Tywysogion Gwynedd – Llywelyn Fawr, Llywelyn ap Gruffudd ac Owain Glyndŵr.

Twristiaeth

“Mae’r gwaith o osod y cleddyf yn rhan o’n hymdrechion i ddenu sylw cenedlaethol a rhyngwladol i Wynedd ac i annog pobol i ddod i fwynhau ein treftadaeth,” ychwanegodd Ioan Thomas.

Mae’n cyfeirio at werth twristiaeth at economi Gwynedd lle mae 16,000 o drigolion y sir yn cael eu cyflogi gan y sector.

Mi fydd paneli gwybodaeth yn cael eu gosod ger y cleddyf sydd wedi’i greu gan ofaint lleol ac wedi’i gomisiynu gan Gyngor Gwynedd yn dilyn grant twristiaeth ranbarthol Llywodraeth Cymru.