Mae cais y chwaraewr rygbi Craig Quinnell wedi’i dewis yn hoff gais y genedl yn dilyn pleidlais gan S4C.

Cafodd y bleidlais ei chynnal yn rhan o ymgyrch blwyddyn y chwedlau i ddod o hyd i “gais chwedlonol Cymru” ac fe gafodd ei dewis o blith ceisiau gan Phil Bennett, Gareth Edwards, Adrian Hadley, Ryan Jones, Alex Cuthbert a Barry John.

Ond cais y chwaraewr Craig Quinnell yn 1999 pan enillodd Cymru o 34 i 33 yn erbyn Ffrainc yn Stade de France enillodd y bleidlais ‘Cais i Gymru.’

Bu Gareth Charles, Gwyn Jones a Gareth Rhys Owen yn dewis y rhestr fer ac yn ôl Gareth Rhys Owen – “roedd hi’n anodd dyfalu pa gais fyddai’n mynd â hi, o blith rhestr o geisiau gan rai o chwaraewyr mwyaf chwedlonol y gêm yng Nghymru.

“Ond does ddim dwywaith am safon cais Craig Quinnell sy’n sefyll mas yn ystod cyfnod gymharol lwm yn hanes y tîm cenedlaethol,” meddai.