Mae’r Blaid Lafur yng Nghymru wedi gweld cwymp yn ei chefnogaeth am y tro cyntaf ers canol mis Mai, yn ôl pôl piniwn newydd.

Mae’r pôl piniwn diweddaraf gan YouGov ar ran Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ac ITV Cymru yn dangos bod cefnogaeth y Blaid Lafur yng Nghymru, sydd wedi bod ar gynnydd yn ystod y misoedd diwethaf, wedi dechrau arafu.

Nid oes fawr o newid i’w weld yng nghefnogaeth y pleidiau eraill wedyn, er bod Plaid Cymru wedi ennill ychydig o dir yn San Steffan a’r Ceidwadwyr yn y Cynulliad.

Plaid Cymru’n ennill tir

Yn ôl ffigyrau ar gyfer San Steffan, a hynny o’u cymharu â’r pôl piniwn diwethaf a gafodd ei gyhoeddi ar 11 Medi, mae cefnogaeth y Blaid Lafur wedi gostwng o 50% i 47%; y Ceidwadwyr o 32% i 31%; a Phlaid Cymru wedi cynyddu o 8% i 11%.

Er hyn, yn ôl Baromedr Gwleidyddol Cymru, ni fydd y newid hwn yn amharu dim ar y nifer o seddi y mae’r pleidiau’n debygol o ennill pe bai etholiad, gyda Llafur yn parhau â gafael ar 28 sedd; y Ceidwadwyr ar 8, a Phlaid Cymru ar 4.

Y Cynulliad – cynnydd i’r Ceidwadwyr

O ran y Cynulliad wedyn, mae’r ffigyrau ar gyfer yr etholaethau yn dangos bod cefnogaeth i’r Ceidwadwyr wedi cynyddu o 25% i 26% – gyda’r pleidiau eraill yn aros yn eu hunfan.

Y Ceidwadwyr yw’r prif enillwyr ar y rhestr ranbarthol hefyd, wrth iddyn nhw gynyddu o 23% i 27%, tra bo cefnogaeth y Blaid Lafur wedi gostwng o 40% i 38%; Plaid Cymru o 19% i 18%; UKIP o 5% i 4%; a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn aros ar 5%.

O newid y ffigyrau hyn i seddi wedyn, yn sgil etholiad fe fyddai Llafur yn debyg o ennill 30 sedd (27 etholaethol, 3 rhanbarthol); y Ceidwadwyr 18 (6 etholaethol, 4 rhanbarthol); Plaid Cymru 10 (6 etholaethol, 4 rhanbarthol); UKIP 1 (1 rhanbarthol); a’r Democratiaid Rhyddfrydol (1 etholaethol).