Mae angen i ddiwydiant cig coch Cymru “symud gyda’r oes” os yw am gynnal gwerthiant ym Mhrydain, yn ôl Cadeirydd Hybu Cig Cymru.

 

Yn ei araith agoriadol i Ffair Aeaf yn Llanelwedd heddiw, dywedodd Kevin Roberts fod angen i’r diwydiant yng Nghymru – os yw am ffynnu yn y farchnad Brydeinig – sicrhau ei fod yn anelu at sectorau premiwm ac yn marchnata ei gynnyrch mewn modd mwy modern.

 

Dywedodd hyn wrth gyhoeddi mai un o brif themâu’r Ffair Aeaf eleni yw atgyfnerthu safle Cig Oen a Chig Eidion Cymru yn y farchnad gartref, a hynny fel rhan o’r cynllunio sydd ar y gweill i wynebu’r ansicrwydd am fasnachu ar ôl Brexit.

 

Cig Cymru’n ffynnu “mewn amseroedd anodd”

 

Yn ei farn ef, gallai cig Cymreig sydd wedi ei frandio ffynnu mewn amgylchiadau anodd os yw’r sectorau premiwm cywir yn cael eu targedu, ac y bydd y targedu hwn yn cynnig y posibiliad o brisiau uwch i ffermwyr, yn hytrach na’r hyn y maen nhw’n eu derbyn o dargedu sectorau isel eu gwerth fel bwyd cyflym a chaffael cyhoeddus.

 

“Gall gig Cymreig berfformio’n well na’r farchnad”, meddai, “a mynd yn erbyn y llif mewn amseroedd anodd, oherwydd enw da’r brandiau am safon a chynaliadwyedd.”

 

Archwilio pob opsiwn

 

Er hyn, cyfaddefodd y byddai’n rhaid mynd ati i archwilio pob opsiwn yn y farchnad Brydeinig petai Brexit caled yn digwydd, yn enwedig yn achos y diwydiant defaid.

 

“Ry’n ni wrth ein bodd i dderbyn £1.5m o gyllid gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo’r gwaith o ddatblygu marchnadoedd newydd,” meddai, “ond bydd yn amhosib cyfnewid masnach Ewrop am werthiant mewn gwledydd eraill dros nos os bydd Brexit caled yn 2019.

 

“Bydd angen mesurau radical i wrthsefyll gorgyflenwad o gig oen yn y farchnad Brydeinig, a bydd yn rhaid i bob rhan o’r gadwyn gyflenwi – o’r fferm i’r manwerthwyr – i gydweithio’n agos.”