Mae dros 30 o bobol sy’n gweithio ym maes iechyd wedi anfon llythyr agored at Lywodraeth Cymru, yn galw am hawliau clir i gleifion i dderbyn ‘gofal sylfaenol’ yn y Gymraeg.

Daw’r llythyr fel ymateb i fersiwn drafft o reoliadau ‘Safonau’r Gymraeg’, wnaeth eithrio ‘gofal sylfaenol’  o’u darpariaethau – er gwaethaf cyngor gan Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws.

Felly dan gynlluniau presennol, ni fyddai gan gleifion hawliau cyfreithiol i dderbyn gwasanaethau Cymraeg wrth ymwneud â meddygon teulu, deintyddion, optegwyr na fferyllwyr.

Yn y llythyr at Weinidog y Gymraeg Eluned Morgan mae’r grŵp yn cyfleu “pryder” am y rheoliadau drafft, gan ddadlau mai ‘gofal sylfaenol’ yw “prif gyswllt” y cyhoedd â’r gwasanaethau iechyd.

‘Erfyn’

“Pryderwn yn fawr nad yw’ch rheoliadau drafft yn sicrhau hawliau i’r Gymraeg wrth i’r cyhoedd ymwneud â gwasanaethau gofal sylfaenol y gwasanaeth iechyd,” meddai’r llythyr.

“Fel y gwyddoch, prif gyswllt y cyhoedd â’r gwasanaethau iechyd yw’r gwasanaethau hyn, felly mae’n allweddol bod cleifion yn cael siarad â’r gwasanaethau gofal sylfaenol ledled y wlad yn Gymraeg.

“Erfyniwn arnoch … i newid y rheoliadau fel bod gan bobl ar lawr gwlad hawliau cadarn yn y meysydd hollbwysig hyn.”

Bydd y Cynulliad yn pleidleisio dros ddyletswyddau iaith dros yr wythnosau nesaf, ac mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ‘Safonau’r Gymraeg’ cyn y Nadolig.

Cryfhau’r ddarpariaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb trwy nodi eu bod wedi ymrwymo i “gryfhau gwasanaethau Cymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol”.

“Rydyn ni wedi ymgynghori ar reoliadau drafft i lunio safonau ar gyfer y sector iechyd mewn perthynas â’r Gymraeg, ac rydyn ni wrthi ar hyn o bryd yn ystyried y ffordd ymlaen,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni’n gweithio gyda darparwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys darparwyr gofal sylfaenol, i sicrhau eu bod yn mynd ati’n fwriadol i gynnig gwasanaethau Cymraeg i bobl, yn enwedig grwpiau penodol fel yr henoed neu blant bach.”