Mae pencadlys Tîm Achub Mynydd Bannau Brycheiniog wedi cael ei ddinstrio yn dilyn tân yn Nowlais ger Merthyr Tudful neithiwr.

Aeth yr adeilad ar dân am oddeutu 8.30pm.

Yn ôl llefarydd, roedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio i storio tri cherbyd a holl gyfarpar y tîm.

Ni chafodd unrhyw un ei anafu yn y digwyddiad, ond cafodd dau gerbyd gwerth £100,000 yr un eu dinistrio.

 

Fe geisiodd y gwasanaeth tân ddiffodd y fflamau am rai oriau.