Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai yn Llanrwst y bydd y Brifwyl yn 2019.

Mae’r cyhoeddiad yn dilyn wythnosau a misoedd o ddyfalu lleol, ers y penderfyniad y byddai’r ŵyl yn cael ei chynnal yn sir Conwy ymhen dwy flynedd.

Roedd pobl y sir wedi cael gwybod bod swyddogion yr Eisteddfod yn ystyried dau safle, sef un ar lawr dyffryn Conwy tua dwy filltir i’r de o Lanrwst, a’r llall gerllaw yr A55 ar gyrion Abergele.

“Ymhen dwy flynedd bydd 30 mlynedd ers cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn ardal Dyffryn Conwy, ac mae pawb yn edrych ymlaen i ddychwelyd i ardal a fu’n gartref arbennig i’r ŵyl yn 1989,” meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr y brifwyl.

“Cyhoeddi’r lleoliad heddiw yw’r cam nesaf yn y gwaith o baratoi ar gyfer yr Eisteddfod, gyda’r pwyllgorau i gyd wedi’u creu ac wedi cychwyn ar eu gwaith.

“Rydan ni’n edrych ymlaen i gychwyn ar y gwaith ar lawr gwlad ym mhob rhan o Sir Conwy er mwyn sicrhau prosiect ac Eisteddfod lwyddiannus iawn yn yr ardal.”

Cynghorwyr yn croesawu

Mae’r newydd wedi ei groesawu’n frwd gan gynghorwyr lleol.

Meddai’r Cynghorydd Gareth Jones, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:  “Rydym wrth ein bodd y bydd Eisteddfod 2019 yn cael ei chynnal ym Mwrdeistref Sirol Conwy, a hoffem longyfarch Llanrwst am gael ei dewis i gynnal y digwyddiad cenedlaethol hwn.

“Byddwn yn cefnogi Pwyllgor yr Eisteddfod gyda’u trefniadau dros y deunaw mis nesaf wrth iddynt baratoi eu digwyddiad.”

Ymhlith y rhai a fu’n ymgyrchu’n frwd dros gael yr Eisteddfod i Lanrwst roedd  un o gynrychiolwyr y dref ar Gyngor Conwy, y Cynghorydd Aaron Wynne.

“Dw i’n hyderus, 30 mlynedd ers i’r Eisteddfod ymweld â’n hen dref farchnad ddiwethaf, y bydd pobl Llanrwst unwaith eto’n cefnogi’r ŵyl a sicrhau ei llwyddiant yn 2019,” meddai.

“Mae dod â’r Eisteddfod i Lanrwst am fod yn hwb sylweddol i fusnesau lleol yn y dref a’r ardal, a dw i’n edrych ymlaen at weld Dyffryn Conwy a holl sir Conwy yn dod at ei gilydd i ddathlu doniau diwylliannol mwyaf Cymru yma yn fy nhref enedigol.”

Gweddill o £93,000

Yn ogystal â chyhoeddi lleoliad 2019, clywodd Cyngor yr Eisteddfod fod yr ŵyl yn Ynys Môn eleni wedi gadael gweddill o £93,200.

“Mae heddiw’n gyfle i edrych yn ôl ar yr wythnos ym Modedern ddechrau Awst eleni,” meddai Elfed Roberts.

“Er y tywydd gwael ar y penwythnos cyntaf, roedd hi’n Eisteddfod gofiadwy, ac mae ein diolch ni’n fawr i drigolion Môn, ein gwirfoddolwyr arbennig a’n hymwelwyr am hynny.

“O’r cychwyn, bwriad Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Derec Llwyd Morgan, oedd sicrhau bod lle i bobl ifanc yr ynys ym mhob elfen o’r gwaith o baratoi ar gyfer yr Eisteddfod.

“Roedd tîm Ynys Môn yn benderfynol o gyrraedd nod y Gronfa Leol, a dyna a wnaethpwyd, a’i basio o bron i £90,000 erbyn diwedd wythnos yr Eisteddfod.

“Llwyddwyd i wneud hyn dan arweiniad gofalus a threfnus Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Haydn Edwards, ynghyd â phwyllgorau lleol hynod weithgar a llawn syniadau, ac rydym yn hynod ddiolchgar iddyn nhw i gyd am eu gwaith.”