Mae nifer o sefydliadau ac unigolion ledled y byd yn gwisgo rhuban gwyn heddiw i gefnogi’r ymgyrch i gael gwared ar drais yn erbyn merched.

Mae Tachwedd 25 yn Ddiwrnod Rhyngwladol gwaredu â thrais yn erbyn merched, ac mae Heddlu De Cymru yn un llu sydd wedi ymrwymo i’r ymgyrch.

“Gall unrhyw un ddioddef camdriniaeth beth bynnag yw eu rhyw, hil, dosbarth, oedran, crefydd, rhywioldeb, gallu meddyliol neu gorfforol, incwm, ffordd o fyw neu’r ardal daearyddol y maen nhw’n byw ynddi,” meddai Alun Michael Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru a Peter Vaughan, Prif Gwnstabl heddlu’r de.

“Fodd bynnag, mae menywod yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwyr i gamdriniaeth domestig a thrais rhywiol na dynion,” meddai’r ddau.

Rhwng Tachwedd 2016 a Hydref 2017, fe wnaeth Heddlu De Cymru ddelio â 35,754 o ddigwyddiadau o gamdriniaeth domestig gyda 73% o’r rheiny yn erbyn merched.

Am hynny, mae heddlu’r de yn gobeithio codi ymwybyddiaeth drwy’r ymgyrch hon i fynd i’r afael â thrais a chamdriniaeth o’r fath.