Mae Heddlu Dyfed Powys yn galw am dystion yn dilyn tân mewn bloc o fflatiau yn Llanelli neithiwr.

Fe gafodd trigolion y fflatiau lety dros nos yn dilyn y tân ar un o’r grisiau agored yn Gransby Close, Llanelli nos Iau (Tachwedd 23).

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru yn cynnal ymchwiliad ar y cyd â Heddlu Dyfed Powys i ganfod achos y tân sy’n cael ei drin yn “anesboniadwy” ar hyn o bryd.

Mae’r heddlu’n galw ar bobol sydd â gwybodaeth i gynorthwyo’r ymchwiliad i gysylltu â’r heddlu ar 101 neu i decstio’r rhif 07811 311 908.