Mae dyn o ochrau Lerpwl wedi lansio’r ap cyntaf yn yr iaith Gymraeg sy’n helpu pobol i ganfod cariad.

Mae Arfon Williams, sy’n wreiddiol o Lanrwst, yn dweud fod pobol yn gallu lawr-lwytho’r ap i’w ffonau symudol, creu proffil o’u hunain ac yna dechrau sgwrsio â phobol eraill.

“Dyma sut mae pawb yn cyfarfod y dyddiau yma efo Tinder a phethau felly,” meddai wrth golwg360 gan gyfeirio at yr ap dêtio poblogaidd yn y Saesneg.

 “Does dim stigma yn y peth fel oedd yna flynyddoedd yn ôl.”

Mae’n ychwanegu fod sawl gwefan ac ap tebyg ar gael yng Nghymru, ond does yr un ohonyn nhw yn y Gymraeg, meddai.

“Fe ddylai Cymru gael ap dêtio yn y Gymraeg.”

Canlyn

Mi gafodd Arfon Williams y syniad am greu’r ap ‘Canlyn’ ar ôl gwylio rhaglen Dragons’ Den ar BBC 2 lle’r oedd dyn o’r enw John Kershaw yn cyflwyno syniadau newydd ar sut i greu apiau dêtio.

Mi gysylltodd y Cymro gyda John Kershaw i ddatblygu’r feddalwedd ac mae’r ap bellach ar gael i’w lawr-lwytho ar ffonau symudol Android ac iOS.

Does dim pris i’w dalu am yr ap, ac mae Arfon Williams yn gobeithio gwneud elw drwy hysbysebion.

“Mae’n mynd i gymryd amser i’w sefydlu,” meddai gan ychwanegu ei fod am i bobol gael “amser gwerth chweil wrth gyfarfod pobol newydd ac efallai’n wir yn canlyn yn selog”.