Mae un o raglenni coffáu hanner can mlynedd ers trychineb Aberfan wedi’i henwebu am un o brif wobrau’r byd darlledu ym Mhrydain.

Bydd y rhaglen gan S4C yn cystadlu yn erbyn rhaglenni am y Rolling Stones, Glastonbury a Harry Styles.

Mae Cantata Memoria: Er Mwyn y Plant yn waith gan y cyfansoddwr Karl Jenkins a’r Prifardd Mererid Hopwood a gafodd ei ddarlledu ar S4C ym mis Hydref y llynedd.

Bellach mae’r rhaglen honno wedi’i henwebu yng nghategori’r rhaglen gerddoriaeth orau gan Wobrau Broadcast sy’n gwobrwyo rhaglenni teledu a rhai ar-lein gan gynnwys Netflix.

Mi fydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig yn Llundain yn mis Chwefror 2018.

Cantata Memoria

 Mae’r rhaglen Cantata Memoria: Er Mwyn y Plant yn deyrnged i’r 116 o blant a 28 oedolion gafodd eu lladd yn 1966 wedi i domen lo gwympo dros bentref Aberfan.

Daeth gwahoddiad arbennig ym mis Ionawr eleni i berfformio’r gwaith yn Neuadd Carneige Efrog Newydd ac mae’r perfformwyr yn cynnwys Bryn Terfel, Elin Manahan Thomas, Catrin Finch ac amryw o gorau.

Yn yr un categori â’r rhaglen mae rhaglenni gan gynnwys The BRIT Awards; Four To The Floor; Glastonbury 2017; Harry Styles – Behind the Album; The Rolling Stones – Ole Ole Ole – A Trip Across South America.

“Mae bod ymhlith rhestr fer gwobrau Broadcast yn anrhydedd arbennig ac rwy’n falch iawn fod y cynhyrchiad pwysig a chwbl unigryw hwn wedi ei gynnwys ymhlith yr enwebiadau,” meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C.