Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad wedi croesawu penderfyniad y Prif Weinidog i sefydlu ymchwiliad i honiadau am fwlio yn ei Lywodraeth ac i awgrym ei fod wedi ceisio cuddio hynny.

Ond, yn ôl Andrew R T Davies, mae angen gwneud yn siŵr hefyd y bydd Aelodau Cynulliad yn cael cyfle I holi Carwyn Jones ac mae wedi galw am sicrwydd ynghylch gonestrwydd yr ymchwiliad.

“Rhaid i ni gael addewidion pendant gan yr Ysgrifennydd Parhaol [prif was sifil Cymru] ynglŷn â thryloywder yr ymchwiliad arfaethedig ac amserlen glir ar gyfer cyhoeddi’r casgliadau.

“Ddylai hyn ddim cael ei ymestyn yn ddiangen na’u sgubo dan y carped,” meddai.

Honiadau o dorri Cod y Gweinidogion

Ddoe, cyhoeddodd Carwyn Jones ei fod wedi cyfeirio ei hun at ymchwiliad yn dilyn honiadau ei fod wedi torri’r Cod y Gweinidogion, sy’n gosod y rheolau y mae’n rhaid i Weinidogion Llywodraeth Cymru eu dilyn.

Fe gododd hynny yn sgil yr honiadau ei fod wedi cam-drin achos y cyn-Weinidog, Carl Sargeant, a grogodd ei hun ar ôl cael ei gyhuddo o ymddwyn yn amhriodol at ferched.

Mae’r Prif Weinidog yn wynebu honiadau ei fod wedi cam-arwain y Cynulliad drwy ddweud yn 2014 nad oedd wedi derbyn unrhyw honiadau o fwlio yn ei Gabinet ac wedyn ‘gwrth-ddweud’ hynny’r wythnos ddiwethaf.

Mae wedi cyfeirio’r ymchwiliad at James Hamilton, Ymgynghorydd Annibynnol i Lywodraeth Yr Alban ac, yn ystod yr wythnosau nesa’, fe fydd panel o ymgynghorwyr profiadol yn cael ei benodi i ystyried cynnwys Cod y Gweinidogion at y dyfodol.

Cefndir – tri ymchwiliad

Mae tri ymchwiliad ar y gweill erbyn hyn – cŵest i farwolaeth Carl Sargeant, ymchwiliad annibynnol i’r ffordd diswyddodd Carwyn Jones yr Aelod Cynulliad a’r ymchwiliad i bu’n a yw’r Prif Weinidog wedi torri Cod y Gweinidogion.

Mae Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, wedi cyhoeddi’n ffurfiol bod sedd Alyn a Glannau Dyfrdwy yn wag ac mae disgwyl cynnal is-etholiad yn y flwyddyn newydd.