Fe gafodd torch goffa wahanol ei gosod ym Mhrifysgol Aberystwyth ddoe, nid i gofio’r Rhyfel Mawr, ond i gofio am un o drychinebau mawr eraill y ganrif ddiwetha’.

Cyn-fyfyriwr o’r Brifysgol oedd un o’r cynta’ i dynnu sylw at newyn a laddodd rhwng 7 a 10 miliwn o bobol yn yr Wcráin yn yr 1930au ac fe ddaeth dirprwyaeth o Lysgenhadaeth y wlad i Aber i osod torch i gydnabod ei waith.

Yn ôl y Dirprwy Lysgennad, Andryi Marchenko, roedd Gareth Jones o’r Barri yn “ŵr dewr” oedd wedi brwydro tros y gwirionedd – mae’r digwyddiadau i gofio 85 mlynedd ers y newyn yn dechrau’n swyddogol fory.

Bellach, mae llawer o wledydd amlwg yn cydnabod bod newyn yr Holodomor wedi ei achosi’n fwriadol gan yr Undeb Sofietaidd yn nyddiau Stalin ond, pan geisiodd Gareth Jones dorri’r newyddion, fe gafodd ei wrthod a’i gondemnio.

‘Brwydro dros y gwirionedd’

“Er gwaethaf y peryglon i’w fywyd, chwaraeodd ran arwyddocaol wrth ddatgelu trosedd newyn yr Holodomor i weddill y byd a bu rhaid iddo frwydro dros y gwirionedd ar yr adeg pan yr oedd llawer yn ei wrthod yn gyhoeddus,” meddai Andryi Marchenko.

“Ein dyletswydd gysegredig i’r miliynau o ddioddefwyr yr Holodomor a’r gŵr dewr Gareth Jones yw eu cofio ac adrodd eu hanes i’r byd fel un o’r tudalennau mwyaf trasig yn hanes yr ugeinfed ganrif.”

Roedd ei or-nai, Nigel Colley, wedi ymuno â’r ddirprwyaeth o’r Wcráin i osod y dorch o dan gofeb Gareth Jones yng nghwad yr Hen Goleg yn Aberystwyth.

Ar ôl cael ei wahardd o’r Undeb Sofietaidd, fe gafodd Gareth Jones ei lofruddio yn China yn 1935 ac mae amheuon o hyd mai’r Rwsiaid oedd yn gyfrifol.