Mae ffrae wedi tanio rhwng Llywodraeth Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig ar effeithlonrwydd ardaloedd menter i greu swyddi newydd.

Yn ôl y Ceidwadwyr, mae ffigurau’r Llywodraeth, a gafodd eu cyhoeddi dan gais rhyddid gwybodaeth, yn dangos bod llai o swyddi wedi cael eu creu na chafodd eu haddo yn wreiddiol.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi cyhuddo’r Torïaid yn y Cynulliad o gyflwyno eu ffigurau “mewn ffordd gamarweiniol”.

Ardaloedd menter

Mae wyth ardal fenter wedi’i chreu yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru yn Ynys Môn; Maes Awyr Caerdydd a Sain Tathan; Canol Caerdydd; Glannau Dyfrdwy; Glynebwy; Dyfrffordd y ddwy afon Cleddau yn Sir Benfro; Glannau Port Talbot; ac Eryri.

Mae’r Ceidwadwyr yn dweud bod yr ystadegau y maen nhw wedi’u gweld yn dangos bod £221m wedi cael ei fuddsoddi yn yr ardaloedd ers 2012, ond bod llai na 3,000 o swyddi wedi’u creu.

Maen nhw’n dweud bod y cynllun yn “wastraff arian”, gan ddweud bod llai na 140 o swyddi wedi’u creu yn Sain Tathan, er bod Llywodraeth Cymru wedi addo creu 10,000 erbyn 2025.

Yn Eryri, er bod £2.1m wedi’i wario, dim ond chwe swydd newydd sydd wedi’i chreu, dwy wedi’u diogelu a 12 wedi’u cefnogi.

Mae 2,998 o swyddi wedi’u creu ers sefydlu’r ardaloedd menter, 4,539 o swyddi wedi’i diogelu a 3,169 wedi’u cefnogi.

“Gwastraff arian”

“Pan gafodd Ardaloedd Menter eu lansio yn 2012, cawsom wybod y byddan nhw’n atgyfnerthu ysbryd cystadleuol economi Cymru, ond prin yw’r dystiolaeth o hynny’n digwydd,” meddai Russell George,  llefarydd y Ceidwadwyr ar yr economi.

“Mae rhai ardaloedd yn amlwg wedi tanberfformio, ac yn yr hir dymor, gallai’r polisi fod y gwastraff fwyaf o arian cyhoeddus ers datganoli.”

Y Ceidwadwyr yn “camarwain”

“Unwaith eto mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno ein ffigurau mewn ffordd gamarweiniol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae cyfanswm y ffigurau yn cynnwys y buddsoddiadau ehangach rydym wedi’u gwneud mewn dwsinau o brosiectau seilwaith ledled Cymru.

“… Dylai’r Ceidwadwyr Cymreig groesawu’r ffaith bod ein Hardaloedd Menter wedi denu swm sylweddol o fuddsoddiad o’r sector preifat ac wedi cefnogi 10,000 o swyddi ers 2012.”