Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn dau honiad ychwanegol yn ymwneud â chamdriniaeth hanesyddol ar Ynys Bŷr oddi ar arfordir Sir Benfro.

Mi gafodd y ddau honiad hyn eu gwneud ddydd Mawrth (Tachwedd 21) ac maen nhw’n ymwneud â chamdriniaeth gan un o fynachod yr ynys, sef Thaddeus Kotik, rhwng yr 1970au a’r 1980au.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod hefyd yn ymchwilio i honiad o ymosodiad rhywiol gan ddyn arall ar Ynys Bŷr tua’r un cyfnod, gyda’r honiad wedi’i wneud gan un o’r chwe dioddefwyr gwreiddiol.

‘Darparu cefnogaeth’

“Mae gennym swyddogion arbenigol yn Heddlu Dyfed Powys i ymchwilio a chynorthwyo dioddefwyr o gamdriniaeth hanesyddol,” meddai Anthony Griffiths, Ditectif Brif Arolygydd y llu.

Mae’n dweud fod yr heddlu’n parhau i weithio â phartneriaid ar Ynys Bŷr i sicrhau fod mesurau mewn grym i “atal plant ddioddef camdriniaeth neu niwed.”

Yn ogystal mae Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, wedi ysgrifennu at abaty Ynys Bŷr am wybodaeth bellach am eu cyfundrefn i ddiogelu plant ar yr ynys.

Mae Anthony Griffiths yn ychwanegu y dylai unrhyw ddioddefwyr eraill roi gwybod i’r heddlu drwy ffonio 101.

“Rwy’n dweud yr un peth i unrhyw un sydd wedi dioddef camdriniaeth yn y gorffennol, neu sy’n dioddef heddiw, os byddan nhw’n magu’r dewrder i adrodd amdano, mi fyddwn ni’n ei gymryd o ddifrif ac yn darparu’r gefnogaeth sydd ei angen.”