Mae cyllideb Philip Hammond yn cael ei beirniadu’n llym gan lefarydd materion Cymreig Llafur, Christina Rees.

Mae Aelod Seneddol Castell-nedd yn dweud fod y gyllideb yn dangos “dirmyg” y Ceidwadwyr tuag at Gymru.

“Mae’n gatalog truenus o gyfleoedd sydd wedi’u colli, wedi’u saethu drwodd wrth ddiystyru’n ddidrugaredd y cymunedau a’r bobol hynny yng Nghymru sydd angen y gefnogaeth fwyaf,” meddai.

Ac er bod £1.2bn wedi’i glustnodi i Gymru, dywedodd y byddai’r rhan fwyaf yn cael ei ad-dalu i’r Trysorlys “gyda chyfyngiadau ar sut y gall gael ei wario”.

Ychwanegodd fod y Gyllideb yn “wan ac yn despret” gan “Lywodraeth Dorïaidd y Deyrnas Unedig nad oes ots ganddi am Gymru”.