Mae Aelod Cynulliad Ceidwadol wedi dweud wrth golwg360 y bydd yn parhau i roi pwysau ar y Llywodraeth i gefnogi Morlyn Llanw Bae Abertawe.

Yn ôl Paul Davies, AC Preseli Penfro, dyw’r ffaith na fydd ymrwymiad i’r prosiect gwerth biliynau o bunnoedd yng Nghyllideb y Canghellor heddiw ddim yn golygu na fydd cefnogaeth i’r cynllun yn y dyfodol.

“R’yn ni wedi gwneud e’n eitha’ clir fel Ceidwadwyr yma yn y Cynulliad bod ni eisiau gweld y prosiect yma yn mynd ‘mlaen,” meddai Paul Davies.

“Ni wedi bod yn lobïo’n gryf i Lywodraeth y Deyrnas Unedig dros y mater a dw i’n gobeithio o hyd fe fydd y Llywodraeth yn edrych ar hyn ac yn ystyried hyn.

“Dim dim ond achos bod Philip Hammond ddim yn gweud dim byd heddiw, dyw hwnna ddim yn meddwl bod y Llywodraeth ddim yn mynd i ystyried fe yn y dyfodol.

“Fi’n gobeithio y byddan nhw’n ystyried e yn y dyfodol a fi’n gobeithio y bydd y prosiect yma yn mynd ‘mlaen oherwydd ry’n ni wedi gwneud e’n eitha’ clir fan hyn bod hi’n bwysig iawn bod y prosiect yma’n mynd mlaen er mwyn sicrhau bod economi Cymru’n tyfu.

“Byddwn ni’n parhau i roi pwysau ar y Deyrnas Unedig, r’yn ni wedi gwneud hwnna’n eitha’ clir.”

Gwrandewch ar y sgwrs lawn gyda Paul Davies, sy’n trafod llymder, Brexit a dyfodol Theresa May, fan hyn: