Mae teulu o Fro Morgannwg wedi talu teyrnged i fachgen 13 oed fu farw’n sydyn mewn gwrthdrawiad car yr wythnos diwethaf.

Roedd Christopher Cole yn ddisgybl blwyddyn naw yn Ysgol Uwchradd Llanilltud Fawr ac yn ôl ei deulu roedd yn “fachgen ifanc hyfryd, galluog, cwrtais a charedig oedd yn caru’i deulu’n fawr.”

“Rydym wedi torri’n calonnau’n llwyr gan ba mor sydyn y cafodd Christopher ei gymryd oddi arnom ni,” meddai’r teulu mewn datganiad drwy law’r heddlu.

Mae’n cael ei ddisgrifio’n fachgen fyddai’n “goleuo” unrhyw sefyllfa ac wrth ei fodd yn chwarae gemau cyfrifiadurol.

Bu farw Christopher Cole ddydd Iau diwethaf, Tachwedd 16, mewn gwrthdrawiad traffig ger cyffordd Heol Eglwys Brewis yn Sain Tathan.

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r achos ac yn galw ar unrhyw dystion i gysylltu ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 1700451694.