Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi galw am Gyllideb sy’n “cynnig cyfle i Gymru” ar drothwy cyhoeddiad y Canghellor Philip Hammond heddiw.

Mae’r blaid yn galw am Gyllideb sy’n cefnogi prosiect Morlyn Llanw Bae Abertawe, Cytundeb Twf i’r gogledd, tegwch ariannol i Gymru ar ôl Brexit, atal cyflwyno’r Credyd Cynhwysol, a therfyn ar y cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus.

“Mae’r Gyllideb hon yn cynnig cyfle go iawn i Gymru, dw i ond yn gobeithio bod y Canghellor yn ddigon dewr i’w gymryd,” meddai arweinydd newydd y blaid, Jane Dodds.

“Mae’r Gyllideb hon yn gyfle i sicrhau bod Cymru’n arwain yn fyd-eang ar ynni’r llanw, i wneud gogledd Cymru’n bwerdy economaidd ac i sicrhau bod gan Gymru’r cyfarpar i gyflwyno llewyrch economaidd i bawb unwaith i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yr uchelgais sydd ei angen ar Gymru, ond a oes gan y Canghellor [yr un uchelgais]?”

Llymder

Wrth drafod un o bolisïau economaidd mwyaf dadleuol y blynyddoedd diwethaf, dywedodd Jane Dodds fod “Cymru wedi cael mwy na digon o lymder”.

“Fel un o ranbarthau mwyaf difreintiedig y Deyrnas Unedig a hyd yn oed yr Undeb Ewropeaidd, mae Cymru wedi dioddef mwy na’r rhan fwyaf.”

Ychwanegodd y byddai bwrw ymlaen gyda’r Credyd Cynhwysol yn arwain at ragor o dlodi a digartrefedd.

Yn ogystal, mae’r bwlch mewn cyflogau yn y sector cyhoeddus “wedi gadael gweithwyr y sector cyhoeddus sy’n rhoi eu bywydau i achub ein rhai ni yn ddibynnol ar fanciau bwyd er mwyn goroesi”.

Wrth gyfeirio at gefnu ar gynlluniau i drydaneiddio’r rheilffordd yn y de, ychwanegodd fod “rhaid cyflwyno ar yr addewid i gyflwyno twf i’r DU gyfan ac agor cyfleoedd i Gymru.”