Mae cleddyf ugain troedfedd o uchder wedi’i godi ar lan Llyn Padarn yn Llanberis i “godi ymwybyddiaeth” a “dathlu hanes” Tywysogion Gwynedd.

Mi fydd y cleddyf yn y pentref wrth droed yr Wyddfa yn atynfa arall i ymwelwyr ac mae’n “rhan o’n hymdrechion i annog pobol i ddod i brofi ein treftadaeth a’n hanes unigryw,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.

Mi fydd enw’r cleddyf yn cael ei ddatgelu mewn seremoni arbennig yr wythnos nesaf wrth i blant Ysgol Dolbadarn gael y gair olaf amdano.

Castell Dolbadarn a Moel Cynghorion

Mae’r cleddyf yn fath o gleddyf y byddai Tywysogion Gwynedd wedi’i ddefnyddio, yn ôl ymchwil gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

“Mae gan Lanberis le o bwys yn ein hanes trwy gysylltiadau gyda Thywysogion Gwynedd fel Llywelyn Fawr, Llywelyn ap Gruffudd ac Owain Glyndwr,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.

“Mae Castell Dolbadarn yn edrych dros y gymuned a gellir gweld y man ymgynnull hanesyddol bwysig Moel Cynghorion o’r pentref.”

“Bwriad gosod y cleddyf ydi codi ymwybyddiaeth ymhlith ymwelwyr i’r ardal a thrigolion lleol am bwysigrwydd yr ardal ac am hanes a threftadaeth Gwynedd a Chymru fel cenedl.”

Mae’r cerflun wedi’i greu gan ofaint lleol ac wedi’i gomisiynu gan Gyngor Gwynedd yn dilyn grant twristiaeth ranbarthol Llywodraeth Cymru.

Lleoliad

Mae rhai pobol wedi mynegi pryder am leoliad y cleddyf gan ddweud ei fod yn amharu ar y golygfeydd ac efallai y dylai fod yn nes at Gastell Dolbadarn.

Ond yn ôl y cynghorydd sir lleol, Kevin Morris Jones, “dw i’n meddwl ei fod o yn y lle iawn. Dw i’n gobeithio o’i gael o yn y pentra’ y gwnaiff o dynnu fwy o bobol i mewn i’r canol i ddysgu am y pentra’ a hefyd am hanes y Tywysogion,” meddai wrth golwg360.