Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi ysgrifennu at abaty Ynys Bŷr oddi ar arfordir Sir Benfro am wybodaeth bellach am eu cyfundrefn i ddiogelu plant ar yr ynys.

 

Daw hyn yn dilyn cyfres o honiadau gan ferched yn honni iddyn nhw gael eu cam-drin yn rhywiol gan un o fynachod yr ynys rhwng yr 1970au a’r 1980au.

 

“Yn sgil yr honiadau a’r erthyglau dros y penwythnos, fe fydden i’n argymell unrhyw un sydd â gwybodaeth neu bryderon ynghylch y sefyllfa ar Ynys Bŷr i gysylltu gyda Heddlu Dyfed Powys ar 101,” meddai Sally Holland yn ei datganiad.

 

Mae’n ychwanegu y bydd yn “cyfarfod ag arweinwyr diogelu plant o bob ffydd, gan gynnwys yr Eglwys Gatholig yng Nghymru, i drafod amddiffyn plant a hawliau plant.”

 

‘Deialog agos’

 

“Rydw i wedi ysgrifennu at abaty yr ynys am fwy o wybodaeth ynghylch eu cyfundrefn diogelu plant er mwyn sicrhau fod unrhyw blentyn neu berson ifanc sy’n ymweld â’r ynys a’u heglwysi nawr yn ddiogel, ac rydw i hefyd wedi trafod y mater gyda’r gwasanaeth Ymgynghorol Diogelu Catholig,” meddai Sally Holland.

 

“Dydyn ni ddim eto mewn sefyllfa i alw am ymchwiliad yn dilyn yr honiadau; mae’r mater yn datblygu ac ar hyn o bryd does dim digon o wybodaeth ar gael.”

 

Mae’n cyfeirio at Ymchwiliad Annibynnol i Gam-Drin Rhywiol yn erbyn Plant sydd ar y gweill gyda’r Eglwys Gatholig ac yn dweud y dylai pobol sydd â phryderon gysylltu drwy’r prosiect hwnnw.

 

“Wrth i’r sefyllfa ddatblygu, byddaf yn cadw deialog agos gyda’r awdurdodau perthnasol er mwyn sicrhau eu bod nhw’n ymateb i’r sefyllfa yn y ffordd fwyaf priodol.”