Mae dyn o Gymru a oedd yn cael ei adnabod fel gweithiwr archfarchnad hynaf Prydain, wedi marw yn 94 oed – deufis wedi iddo ymddeol.
Bu Reg Buttress yn gweithio yn Sainsbury’s Cwmbrân ers dros dri degawd, ac mi ddaeth yn ffigwr adnabyddus yno.
Er iddo ymddeol am y tro cyntaf yn 65 oed, penderfynodd ddychwelyd i weithio yno oherwydd ei fod wedi diflasu.
Dechreuodd Reg Buttress ei yrfa 81 blynedd yn ol yn cynorthwyo glowyr yn y pyllau glo.
‘Ysbrydoli’
“Roedd Reg yn gydweithiwr oedd yn cael ei garu gan bawb, ac mi roedd yn ein hysbrydoli ni i gyd,” meddai llefarydd ar ran yr archfarchnad.
“Anfonwn ein cydymdeimlad i’w ffrindiau a’i deulu yn ystod y cyfnod trist yma. Byddwn yn gweld ei eisiau.”