Mae angen gwneud dau beth i wella’r rheilffyrdd yn ne Cymru – sef trydaneiddio’r cysylltiad â sythu’r traciau.

Dyna farn un o’r arbenigwyr mwya’ ar drafnidiaeth Cymru, sef yr Athro Stuart Cole o Brifysgol De Cymru.

Mi fydd yn cyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan heddiw wrth iddyn nhw ymchwilio i benderfyniad Llywodraeth Prydain yr haf hwn i beidio â thrydaneiddio’r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe.

Effaith ar yr economi

Mi ddywedodd Stuart Cole wrth golwg360 ei fod wedi cael “siom mawr,” pan gafodd wybod fod Adran Drafnidiaeth Llywodraeth Prydain am roi’r gorau i’r cynllun o drydaneiddio’r rheilffordd hyd at Abertawe.

Mae’n cydnabod dadleuon na fyddai trydaneiddio’n arbed cymaint â hynny o amser i deithwyr, meddai, ond “mae’n rhaid edrych ar yr effaith ar yr economi leol,” meddai wedyn.

“Mae Cymru’n cystadlu â llefydd yng nghanolbarth a gogledd Lloegr am fuddsoddiad gan gwmnïau, ac maen nhw’n edrych pa mor dda a chyflym yw’r cysylltiad rhwng y rheiny â Llundain,” meddai.

“I gwmnïau sy’n ystyried buddsoddi yn ne orllewin Cymru maen nhw’n mynd i ofyn – os nad ydy Llywodraeth Prydain yn fodlon buddsoddi yn y rheilffordd yma, pam ydyn ni’n edrych i fuddsoddi yno?’”, meddai wrth golwg360.

Sgwrs lawn

Mae’n dweud ei fod yn falch fod ymchwiliad yn cael ei gynnal i’r mater gyda Llywodraeth Cymru yn ymgynghori gyda Llywodraeth Prydain.

“Os ydyn ni’n mynd i gael sgwrs, dylem ni gael sgwrs sy’n cyfro popeth,” meddai.

Mae’n nodi fod angen sythu’r traciau er mwyn arbed amser teithio a hynny am fod llawer o droeon ar y rheilffordd rhwng Caerdydd â’r gorllewin wrth osgoi corsydd mawn, mynyddoedd, a hawliau tir.

“Mae angen cael trac mwy syth a thrydaneiddio. Dyna’r ateb, dyna oedd yr ateb o’r dechrau.”