Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cau Canolfan Hamdden Caergybi dros dro wedi i lygoden gael ei gweld yn yr adeilad.

 

Cafodd swyddogion Iechyd yr Amgylchedd eu galw ar ôl i aelod o’r cyhoedd weld yr hyn y credir oedd yn llygoden fawr yn y gampfa.

 

Maen nhw wedi eu cynghori y dylai’r ganolfan gau hyd nes o leiaf ddiwedd yr wythnos fel eu bod yn gallu cymryd camau i wneud yn siŵr fod yr adeilad yn ddiogel ac yn lân.

 

Cafodd y ganolfan ei hadeiladu yn y 1970au cynnar.

 

“Diogel”

 

Dywedodd Rheolwr Masnachol y Gwasanaeth Hamdden, Gerallt Roberts: “Gallwn gadarnhau bod Canolfan Hamdden Caergybi wedi gorfod cau i’r cyhoedd heddiw [dydd Llun]. Bydd hyn yn rhoi amser i ni weithio gyda chydweithwyr yn yr adain Iechyd yr Amgylchedd i sicrhau bod yr adeilad i gyd yn ddiogel a’i fod yn cael ei lanhau’n llwyr cyn i ni adael cwsmeriaid yn ôl i mewn eto.”

 

Ychwanegodd y deilydd portffolio Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Carwyn Jones: “Hoffwn gymryd y cyfle yma i ymddiheuro’n ddiffuant i’n cwsmeriaid ffyddlon ni am yr anghyfleustra yma, ond mae’n rhaid i ni sicrhau fod iechyd y cyhoedd yn parhau’n flaenoriaeth.”

 

Bydd y Gwasanaeth Hamdden yn parhau i ddiweddaru cwsmeriaid drwy ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol neu gellir ffonio Canolfan Hamdden Caergybi ar (01407) 764111 am ragor o fanylion.