Mae’r mudiad sy’n erbyn datblygu ail orsaf niwclear yn Ynys Môn wedi gefeillio â mudiad Cyfeillion y Ddaear Japan.
Ac mae un o gynrychiolwyr Cyfeillion y Ddaear Japan, Ayumi Fukakusa, yn ymweld ag Ynys Môn yr wythnos hon.
Mewn cyfarfod y bore yma mi fydd yn sôn am waith Cyfeillion y Ddaear Japan wrth ymgyrchu yn erbyn allforio technoleg niwclear gan Hitachi a Toshiba i Gymru a Lloegr.
Mi fydd yn sôn hefyd am ymgyrch i atal cwmnïau mawr rhag ariannu prosiectau ynni niwclear y tu allan i Japan.
“Mae’n bwysig iawn i gofio bod bron pob adweithydd niwclear yn Japan yn segur ers trychineb niwclear Fukushima,” meddai’r ymgyrchydd Carl Clowes o fudiad PAWB.
“Ar ben hynny, does dim adweithyddion niwclear newydd yn cael eu codi yno o gwbl. Rydym yn arbennig o falch fod Cyfeillion y Ddaear yn Japan yn ymgyrchu’n galed yn erbyn allforio’r fath dechnoleg beryglus, hen ffasiwn ac eithriadol o ddrud.”
Ymgynghoriad cyhoeddus
Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn parhau’r wythnos hon wrth iddyn nhw ystyried rhoi trwydded gwaredu gwastraff ymbelydrol i gwmni Horizon.
Mae’r cyfnod ymgynghori’n para tan Ionawr 14 gyda’r digwyddiadau’n cynnwys:
- Tachwedd 20: 2pm-7pm – Neuadd David Hughes, Cemaes, LL67 0LW
- Tachwedd 21: 2pm-7pm – Storiel, Bangor, LL57 1DT
- Tachwedd 22: 11am – 4pm – Canolfan Ebeneser, Llangefni, LL77 7PN