Y cerddor o Gaernarfon, Geraint Løvgreen, yw’r diweddaraf i ddweud na fydd yn talu ffi ei drwydded deledu yn rhan o ymgyrch i ddatganoli darlledu i Gymru.

Ers rhai misoedd mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw am ddatganoli darlledu o Lywodraeth Prydain i Gymru, ac mae Heledd Gwyndaf ac aelodau eraill wedi dweud na fyddan nhw’n talu ffi’r drwydded tan y byddant yn cael ymrwymiad o hynny.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Prydain yn cynnal adolygiad annibynnol o gylch gwaith S4C dan gadeiryddiaeth Euryn Ogwen Williams, ac mae’r gymdeithas wedi cyflwyno deiseb iddo’n galw am ddatganoli darlledu i Gymru.

Galw am ddatganoli

“Mae’r Gymraeg a democratiaeth Cymru yn dioddef yn ddifrifol o ganlyniad i gyfundrefn ddarlledu sy’n cael ei rheoli o San Steffan ar hyn o bryd,” meddai Geraint Løvgreen.

“Mae’r ymosodiadau ar y Gymraeg a welwyd yn ddiweddar gan raglenni’r BBC, a’r sylw unllygeidiog Llundeinig a roddwyd i faterion fel ymgyrchoedd annibyniaeth yr Alban a Chatalwnia yn dangos mai propaganda Prydeinig yw’r hyn sy’n cael ei ddarlledu i ni yng Nghymru o ddydd i ddydd,” meddai.

“Byddai rheoli ein cyfryngau ein hunain yng Nghymru yn rhoi cyfle i ni weld ein hunain a’r byd drwy lygaid Cymreig.”