Byddai Llywodraeth Geidwadol Prydain yn cyflawni’r “brad mwyaf llwfr ar fuddiannau cenedlaethol Cymru ers Tryweryn” pe na bai prosiect Morlyn Llanw Abertawe yn mynd yn ei flaen.

Dyna neges llefarydd Ynni, Newid Hinsawd a Materion Gwledig Plaid Cymru, Simon Thomas ar drothwy Cyllideb yr Hydref Canghellor San Steffan, Philip Hammond ddydd Mercher.

Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns eisoes wedi dweud bod rhaid i’r prosiect brofi ei werth i’r trethdalwyr, ac fe benderfynodd y llywodraeth ym mis Ionawr y byddai’r prosiect yn arbrawf ar gyfer prosiectau tebyg drwy wledydd Prydain.

Ond dyw’r llywodraeth ddim wedi cyhoeddi eto a fyddan nhw’n buddsoddi yn ei ddyfodol.

‘Bradychu Cymru bob cyfle’

Mewn datganiad, dywedodd Simon Thomas fod y Llywodraeth Geidwadol “wedi bradychu Cymru bob cyfle a gawsant”, ac fe’u cyhuddodd o gefnu ar eu haddewid i drydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe ac o fethu ag amddiffyn Cymru yn ystod trafodaethau Brexit.

“…Yn y gyllideb ar ddydd Mercher, mae ganddynt gyfle i wneud yn iawn am hynny,” meddai.

“Dyma’r cyfle realistig olaf i fwrw ymlaen a phrosiect a allai drawsnewid dyfodol Cymru, trawsnewid ein hanghenion am ynni at y dyfodol, trwy gytuno i Forlyn Llanw Bae Abertawe.

“Y gyllideb hon yw’r cyfle olaf i’r Llywodraeth Geidwadol ddangos eu bod yn credu yng Nghymru, yn credu yn ein dyfodol, yn credu yn ein heconomi, ac yn credu yn sgiliau a deallusrwydd ein pobl. Rwy’n annog y Llywodraeth Geidwadol i gefnogi Morlyn Llanw Bae Abertawe ar ddydd Mercher.”

Tryweryn

Ychwanegodd: “Yr hyn sy’n dal Cymru yn ôl yw agweddau hen-ffasiwn, grwpiau diddordeb, a gwleidyddion Llafur a Thorïaidd sydd ofn am eu bywydau i ddatgloi potensial Cymru.

“Pam? Wel, oherwydd bod cyflawni ein potensial yn golygu dim mwy o Lundain, dim mwy o’r Deyrnas Gyfunol, mae’n golygu Cymru annibynnol yn dangos ei hwyneb gwyrdd newydd i’r byd. Arwain y ffordd, nid cardota am friwsion o fwrdd Llundain.

“Buasai Cymru sy’n rheoli ei hadnoddau ei hun wedi hen roi’r golau gwyrdd i’r morlyn llanw ym Mae Abertawe.

“Am gynnig cyffrous, trawsnewidiol, fyddai’n adeiladu ein cenedl.

“Ymhen cenhedlaeth gallai ein trydan yn hawdd ddod o’r gwynt, solar a’r haul. Dim angen unrhyw danwydd ffosil na diwydiant niwclear wedi’i lygru gan arfau niwclear.

“Mae cwmnïau yn barod i gyflogi cannoedd o bobl yng Nghymru i helpu i adeiladu a gwneud y mwyaf o’r dechnoleg hon. Dyma’r dyfodol.

“Os na fydd y Torïaid yn cefnogi prosiect y morlyn yn y Gyllideb hon, fel yr argymhellwyd gan eu hadroddiad annibynnol eu hunain, ond yn hytrach yn achosi mwy o oedi i’r buddsoddwyr a’r datblygwyr yn y gobaith y bydd eu diddordeb a’u hymrwymiad yn pylu, yna dyna fyddai’r brad mwyaf llwfr ar fuddiannau  cenedlaethol Cymru ers Tryweryn.”