Fe fydd angladd Carl Sargeant yn cael ei gynnal yng Nghei Conna ar Ragfyr 1.

Bydd y gwasanaeth yn ddathliad o fywyd yr Aelod Cynulliad Llafur a chyn-Ysgrifennydd Cymunedau Llywodraeth Cymru.

Mae lle i gredu ei fod e wedi lladd ei hun yn dilyn honiadau ynghylch ei ymddygiad rhywiol, ac fe gafodd y cwest i’w farwolaeth ar Dachwedd 7 ei agor yr wythnos ddiwethaf, lle daeth i’r amlwg ei fod e wedi’i ddarganfod yn ei gartref wedi crogi.

Mae disgwyl miloedd o bobol yn yr angladd.