Bydd Cyngor Sir Powys yn cynnig parcio am ddim yn ei feysydd parcio talu ac arddangos dros ddau ddiwrnod siopa pwysig yn yr wythnosau cyn y Nadolig.

Daw’r fenter yn dilyn cynlluniau parcio am ddim llwyddiannus blaenorol.

Mae’r Cyngor yn cynnig parcio am ddim ar ddydd Sadwrn 16 a dydd Sadwrn 23 Rhagfyr rhwng 10 y bore a chwech yr hwyr.

Mae’r fenter yn cynnwys meysydd parcio oddi ar strydoedd yn unig ac nid yw’n newid cyfyngiadau parcio wrth ymyl y ffordd. Bydd parcio am ddim mewn meysydd parcio arhosiad byr am ddwy awr ar y mwyaf.