Mae nifer y disgyblion sy’n cael eu tynnu o ysgolion yng Nghymru wedi dyblu mewn pedair blynedd.

Yn ôl ystadegau gan gynghorau Cymru, cafodd 1,906 o ddisgyblion eu tynnu o ysgolion yn 2016-17, o gymharu â 864 yn 2013-14.

Y gred yw bod nifer o’r rhain yn blant awtistig, a’u rhieni yn ffafrio eu haddysgu adref oherwydd eu bod yn cael trafferth yn ymdopi mewn ysgolion.

“Mae llawer o rieni yn wynebu sefyllfa lle nad oes opsiynau, a’r unig beth y gallan nhw wneud i helpu eu plant ydy eu haddysgu nhw adref,” meddai Meleri Thomas o Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol Cymru.

Dan gyfraith gwlad, mae’n rhaid i bob plentyn dderbyn addysg, ond nid oes rhaid iddyn nhw ddilyn cwricwlwm penodol neu gael eu dysgu mewn ysgolion.