Mae aelodau menter y Saith Seren wedi ethol Cadeirydd newydd i’w Canolfan Gymraeg yn Wrecsam.

Athro lleol yw Chris Evans sydd yn hanu o’r ardal, ac mi fydd yn olynu’r Cynghorydd sir, Marc Jones, wrth esgyn i’r rôl.

“Rwy’n hynod falch o dderbyn yr her o gymryd drosodd fel cadeirydd gan Marc, er eu bod yn esgidiau mawr i’w llenwi!” meddai Chris Evans.

“Rwy’n benderfynol o adeiladu ar y sylfeini y mae Marc wedi eu gosod, fel y bydd Saith Seren yma am flynyddoedd lawer i ddod.”

Yn ogystal ag ethol cadeirydd newydd mae aelodau’r Saith Seren hefyd wedi ail-ethol y trysorydd Steve Kynaston a’r ysgrifennydd Judith Bartley. Ray Floyd fydd yr is-gadeirydd.

Saith Seren

Mae’r Canolfan Gymraeg yn nhafarn y Saith Seren wedi ei leoli ar Stryd Caer, a chafodd ei agor yn swyddogol rhyw chwe blynedd yn ôl.

Mae’r canolfan yn cynnal nifer o weithgareddau Cymraeg gan gynnwys ‘Clwb Clebran’ i ddysgwyr pob nos Lun, a chwis dwyieithog achlysurol.