Mae cwmni fferyllol rhyngwladol wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth £22 miliwn mewn safle yng ngogledd Cymru.

Cwmni Ipsen yw un o brif gyflogwyr Wrecsam – maen nhw eisoes yn cyflogi 400 o bobol yno – ac mae disgwyl i’r buddsoddiad ddatblygu cynhyrchiad yn eu safle ger y dref.

Mae’n debyg bod y safle hwn yn cynhyrchu sylweddau sydd yn trin ystod o heintiau, gan gynnwys parlys yr ymennydd.

Mae’r cwmni yn gwerthu cynnyrch i 115 gwlad ledled y byd, ac wedi bod yn rhedeg safle yn Wrecsam ers 1995.

Llwyddiannau gogledd Cymru’

“Dyma enghraifft o un o lwyddiannau mawr gogledd Cymru,” meddai Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, wrth groesawu’r cyhoeddiad.

“Mae eu twf parhaus yn amlygu ehangder cyfraniad y gwyddorau bywyd ac arloesi arbenigol, i’r ardal ac i economi Cymru.”