Mae cwmni o Dubai sy’n gwneud deunydd pacio bwyd wedi penderfynu sefydlu ffatri yn Wrecsam, gan greu 250 o swyddi.

Cafodd y cwmni fenthyciad o £1.5 miliwn drwy Gyllid Cymru, banc datblygu lled braich Llywodraeth Cymru, er mwyn ei denu i ddod i Gymru ac nid i rywle arall yn Ewrop.

Mae Hotpack Ltd wedi prynu safle ar Ystâd Ddiwydiannol Llai, gyda’r bwriad o greu’r swyddi gweithgynhyrchu a swyddi warws dros y tair i bum mlynedd nesaf.

Mae disgwyl iddyn nhw rannu’r safle â chwmni Sharp sydd eisoes yno.

“Manteision go iawn i’r economi a’r gymuned”

Mae’r Llywodraeth yn dweud bod disgwyl i safle Hotpack ddenu buddsoddiad gwerth £50miliwn i ogledd Cymru.

“Dw i’n hyderus y bydd Hotpack yn dod â manteision go iawn i’r economi a chymuned leol, a dw i’n edrych ymlaen at ymweld â’r cyfleuster newydd ar ôl iddo agor,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd Economi Cymru.

“Dyma esiampl o beth sy’n cael ei gyflawni pan fydd busnesau’n gallu elwa ar y cyngor a’r cymorth sydd ar gael.

“Fis diwethaf, roeddwn yn falch o gael lansio Banc Datblygu Cymru, a fydd yn rhoi mantais inni wrth gystadlu yn y DU. O’i herwydd, dw i’n hyderus y byddwn ni’n fwy llwyddiannus byth o ran creu swyddi yng nghymunedau ledled Cymru.”

Cymorth i ehangu

“Ers ein hymweliad cyntaf â’r wlad, mae pobl Cymru, ac yn benodol bobl Wrecsam, wedi cynnig lefel hynod uwch o gymorth inni, yn bersonol ac yn fasnachol,” meddai Abdul Jebbar, cyfarwyddwr rhyngwladol Hotpack Packaging.

“Nawr ein bod wedi prynu’r safle, rydyn ni wedi dechrau’r gwaith datblygu, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gael perthynas hir a llewyrchus â phobl a busnesau Cymru.”