Mae menter newydd wedi’i sefydlu gan drigolion pentref Boncath yn Sir Benfro, gyda’r bwriad o ail-agor tafarn leol.

Fe ddaeth y gymuned at ei gilydd mewn cyfarfod cyhoeddus neithiwr (nos Fercher) i drafod ffyrdd o achub Tafarn Boncath a hynny ar ôl gweld llwyddiant yr ymgyrch i achub Tafarn Sinc ychydig filltiroedd i lawr y lôn.

Daeth bron i 100 o bobol i Neuadd y Pentref, ac mae pwyllgor wedi’i sefydlu i benderfynu ar gamau nesaf yr ymgyrch.

Neuadd dan ei sang

“Y gymuned sydd wedi ymateb, mae nifer fawr o bobol wedi gofyn pam smo’n i’n gwneud rhywbeth tebyg ym Moncath?” meddai cadeirydd y pwyllgor, Kevin Davies wrth golwg360.

“Y rheswm wnaethon ni gynnal y cyfarfod neithiwr oedd jyst i weld a oedd yna wir ddiddordeb… roedd hi’n braf i weld bod y neuadd dan ei sang neithiwr ac roedd pawb yn unfrydol i edrych i mewn i’r sefyllfa.

“Mae’r [sefyllfa] tipyn bach yn wahanol i Dafarn Sinc achos mae’r dafarn yma wedi bod ar gau ers dros flwyddyn… mae sôn bod rhan o’r maes parcio wedi cael ei werthu, felly mae tipyn bach o waith ymchwil gennym ni i wneud cyn bod ni’n cael cyfarfod nesaf o’r pwyllgor llawn.

“Mae’n rhaid i ni fod yn realistig, mae’n rhaid i ni sicrhau bod y pen yn rheoli’r galon. Bydd rhaid i ni edrych ar y ffigurau ac wedyn os yw popeth yn edrych yn dda, mae yna bobol gyda ni sy’n awyddus iawn i fwrw mlaen gyda’r cynllun.”

Camau nesaf

“Mae yna adeiladwyr gyda ni, mae pobol sy’n arbenigo mewn cynllunio, pobol busnesau lleol, pobol sy’n delio â’r ochr ariannol, felly mae yna drawstoriad o wahanol bobol gyda ni,” meddai Kevin Davies am y pwyllgor.

Dywed mai’r camau nesaf yw ymweld â’r dafarn yr wythnos nesaf, cael arolygydd tir i gynnal profion ar y safle ac wedyn mynd ag argymhellion i’r gymuned mewn cyfarfod arall erbyn diwedd y flwyddyn.

Ond mae’r ymgyrch codi arian wedi dechrau yn barod, gyda thaflenni wedi’u hargraffu i bobol brynu siâr o £200 yn y dafarn.

Teimlo’r golled

Mae’r gymuned yn teimlo’r golled ers i’r dafarn gau, meddai Kevin Davies, sy’n dweud ei bod wedi chwarae rhan bwysig yn y pentref.

“Roedden i’n siarad gyda phobol y siop y pentre’, mae e wedi cael effaith ar hwnnw. Mor gynted â mae un peth yn cael ei golli mewn pentre’, mae yna dueddiad wedyn bod yna bethau eraill yn mynd i gael ei golli. Felly mae’n bwysig i sicrhau bod ni’n cadw cymaint o’r pethau yma ag sy’n bosib.

“Mae e’n le i gwrdd, fi’n gobeithio y gallai pobol mynd yna dim dim ond i yfed ond i gael lle i ddod draw, cael disgled fach o goffi, cymdeithasu yn y bore a hefyd cael prydau bwyd.

“A defnyddio cynnyrch lleol hefyd, dim prynu fe o bant – mae hynny’n bwysig i’w nodi,” meddai.