Mae’r sefydliad ymchwil niwclear cyntaf yng Nghymru wedi ei agor ym Mhrifysgol Bangor.

Mae’r Sefydliad Dyfodol Niwclear wedi cael ei ariannu gan raglen £6.5m ‘Sêr Cymru’ – rhaglen sydd wedi’i chyllido gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.

Bydd y rhaglen hon yn ariannu dwy ganolfan ymchwil yn y Sefydliad Dyfodol Niwclear ac yn helpu denu ymchwilwyr ac arbenigwyr i Gymru.

Daw’r agoriad swyddogol yn dilyn ymrwymiad gan y brifysgol i gydweithio â Hitachi-GE Nuclear Energy, Imperial College Llundain a Horizon – sef y cwmni sy’n gyfrifol am Wylfa Newydd.

Croesawu

Mae’r Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor, wedi croesawu’r  sefydliad gan nodi y bydd yn troi gogledd Cymru yn “ganolfan fyd-eang”.

“Defnyddir arbenigaeth gyfrifiannu Prifysgol Bangor i greu sefydliad a fydd yn gwneud gogledd Cymru’n ganolfan fyd-eang mewn modelu rhagfynegol a deunyddiau yn y sector niwclear,” meddai.