Mae’r grwp o wirfoddolwyr sy’n bwriadu atgyfodi papur newydd Y Cymro, yn disgwyl clywed yn fuan a fyddan nhw’n derbyn grant er mwyn gwneud y gwaith.

Ar dudalen Facebook grwp ‘Cyfeillion y Cymro’ mae neges wedi’i phostio ben bore heddiw yn dweud fod panel Cyngor Llyfrau Cymru yn cyfarfod yr wythnos hon i ystyried eu cais am arian.

“Hir yw pob ymaros!” meddai’r neges, cyn addo “bydd ein hymdrech yn parhau… diolch am y gefnogaeth.”

Ddiwedd Medi, roedd y wefan hon yn adrodd fel yr oedd y grwp yn bwriadu cyflwyno rhifyn enghreifftiol o’r papur i’r Cyngor, ar gyfer ei ystyried.

Cyn hynny, fe fuon nhw’n casglu arian ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern.