Mae llys wedi clywed bod olion bysedd llanc 17 oed sydd wedi’i gyhuddo o gynllwyn brawychol yng Nghaerdydd wedi cael eu darganfod ar lythyr yn galw am ymosodiadau tebyg yn y dyfodol.

Clywodd Llys y Goron Birmingham gan arbenigwyr llawysgrifen sy’n dweud bod ganddyn nhw dystiolaeth “gadarn” mai ef oedd wedi ysgrifennu’r llythyr.

Ond mae’n gwadu cynllwyn brawychol a phedwar cyhuddiad arall ar ôl i forthwyl a chyllell gael eu darganfod yn ei fag ysgol.

Clywodd y llys fod y llanc wedi chwilio am wybodaeth am ddiogelwch adeg cyngerdd Justin Bieber yn Stadiwm Principality, cyn postio neges ar Instagram yn gofyn “Caerdydd, ydych chi’n barod am ein brawychiaeth.”

Cafodd ei arestio ar Fehefin 30 yn ei gartref e a’i fam.

Cyfrinair

Dywedodd plismon o Uned Eithafiaeth a Gwrth-frawychiaeth Cymru fod y llanc wedi ysgrifennu ei gyfrinair – ‘TruckAttack’ ar ddarn o bapur.

Roedd y nodyn hefyd yn dweud, “Yn enw Allah, boed i frawychiaeth gyfarch eich gwlad. Bydded mwy o ymosodiadau â cherbydau â chaniatâd Allah.”

Mewn nodyn arall, dywedodd y llanc ei fod yn aelod o’r Wladwriaeth Islamaidd, sy’n bygwth anghredinwyr ag ymosodiadau â cherbydau.

Ychwanegodd yr arbenigwr mai’r “diffynnydd yw awdur y nodyn”.