Mae Aelod Seneddol o Gymru bu’n ymweld â gwersyll ffoaduriaid yn Bangladesh yr wythnos ddiwethaf, wedi cymharu’r profiad ag “ymweliad ag uffern”.

Yn dilyn cynhadledd yn ninas Dhaka, penderfynodd Paul Flynn ynghyd ag wyth aelod seneddol arall i ymweld â gwersyll Rohingya – grŵp o Fwslimiaid sy’n dweud eu bod nhw’n cael eu herlid gan filwyr Myanmar (Burma).

Yno, yn y gwersyll ger Cox’s Bazaar, meddai, y daeth Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd wyneb i wyneb a phob math o erchyllterau – o blant wedi’u parlysu i bobol ar fin marw.

“Un o brofiadau gwaethaf fy mywyd i,” meddai Paul Flynn wrth golwg360.

“Oedd e fel hunllef. Dw i wedi bod mewn gwersylloedd ffoaduriaid yn Palestina a llefydd eraill. Ond, does dim yn cymharu â’r hyn sy’n digwydd [yn y gwersyll hwn].”

Mae Paul Flynn yn dweud bod poblogaeth maint Manceinion yn byw yno, a bod y gwersyll yn “ymestyn am filltiroedd”. I lawer o bobol, tarpolin a ffyn sy’n rhoi cysgod uwch eu pennau.

Mae hefyd yn tynnu sylw at “amodau ofnadwy” y gwersyll, gan gynnwys diffyg carthffosydd a chiwiau hanner milltir o hyd i aros am fwyd… a hyn oll mewn gwres llethol.

Cymorth tramor

Yn ôl Paul Flynn, pe byddai Myanmar yn gadael i’r Rohingya ddychwelyd yno, fe fyddai’n ateb y broblem. Ond,  ar y llaw arall, mae’n derbyn bod hynny ddim yn bosib ar ol popeth sydd wedi digwydd.

“Tan ddaw ateb amlycach, mae’n dweud bod angen dal ati â chymorth tramor gan nodi bod y daith wedi ei ysgogi – ynghyd a’i gyd-wleidyddion – i ymgyrchu ar rhan y Rohingya,” meddai.

“Mae pob un ohonon ni wedi cael sioc, a wedi penderfynu sicrhau bod cymorth iddyn nhw’n parhau. Roedd [y ffoaduriaid] yn ddiolchgar i bobol y wlad hon am y cymorth.

“Mae pawb ohonon ni eisiau gwneud popeth sy’n bosib i dynnu sylw at y pwnc [yn Nhŷ’r cyffredin] er mwyn sicrhau bod neb yn anghofio beth sy’n digwydd.

“Mae pobol yn galw am gwtogi yr arian ond dw i wedi ysgrifennu at y Canghellor yn dweud bod angen mwy o arian nid llai,” meddai Paul Flynn.