Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad ar lanc 14 oed yng Nghasnewydd dros y Sul.

Roedd ymhlith criw o bobol oedd wedi bod yn ffraeo tros ddefnydd o gae pêl-droed ym Mharc Beechwood y ddinas am oddeutu 4.20yp dydd Sadwrn, Tachwedd 4.

Mae lle i gredu bod tad un o’r llanciau yng nghanol y ffrae wedi taflu’r llanc 14 oed i’r llawr.

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi llun o ddyn y maen nhw’n awyddus i siarad ag ef mewn perthynas â’r ymosodiad, ac maen nhw’n gofyn am help y cyhoedd.