Mae’r cwmni sydd wedi ymgymryd â’r dasg o ail-frandio Cymru a’i marchnata i’r byd, wedi cael cydnabyddiaeth gan flog celf a dylunio.

Mae Smorgasbord yn ymddangos ar restr o’r ugain cwmni ail-frandio gorau am eu gwaith i Croeso Cymru.

Bwriad y blog, yn ôl blog Creativeboom, yw “ymgysylltu, hysbysu, gwahodd, herio a chefnogi fel ei gilydd”.

Ychwanega’r blog: “Mae’n tynnu ynghyd linynnau gwahanol o weithgarwch, gan greu ‘glud’ sy’n uno pobol a llefydd gwych Cymru: yn ddigidol, yn gorfforol ac yn ddiwylliannol”.

Llwyddiannau’r cwmni

Wrth bwyso a mesur llwyddiannau Smorgasbord, dywed y blog fod y cwmni wedi llwyddo i gynyddu ymwelwyr â gwefannau cymdeithasol Croeso Cymru o 45% i oddeutu 1 miliwn.

Roedd mwy na phum miliwn o ymwelwyr unigol gan y wefan dros y flwyddyn ddiwethaf.

A gogledd Cymru, yn ôl rhestr deithio’r Lonely Planet, yw’r pedwerydd lle gorau yn y byd ar gyfer ymwelwyr eleni.