Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cadarnhau mai nhw fydd yn cynnal gwobr Llyfr y Flwyddyn y flwyddyn nesaf.

Yn y seremoni yn y Tramshed, Caerdydd neithiwr fe ddywedodd Prif Weithredwr y corff cenedlaethol eu bod wedi “ymrwymo” i’r gwobrau.

Bellach mae Lleucu Siencyn wedi cadarnhau mai nhw fydd yn trefnu gwobr Llyfr y Flwyddyn 2018.

“Rydym yn edrych ymlaen at gael y sector ynghyd yn fuan iawn i drafod sut y gallwn gydweithio i ddatblygu’r wobr ac adeiladu ar ei llwyddiant eleni,” meddai.

Y gwobrau

Mae peth amheuaeth wedi bod am ddyfodol y gwobrau gydag adroddiad diweddar dan gadeiryddiaeth Medwin Hughes yn awgrymu y gallai rhai o gyfrifoldebau Llenyddiaeth Cymru gael eu trosglwyddo i’r Cyngor Llyfrau, a gallai hynny gynnwys y gwobrau hyn.

Ond yn ystod y seremoni neithiwr, fe ddywedodd Lleucu Siencyn wrth golwg360 ei bod yn awyddus i’r gwobrau ddychwelyd i’r slot arferol yn yr haf, a hynny wedi i’r amseriad eleni gael ei feirniadu wrth i lyfrau 2016 gyd-daro â gwerthiant llyfrau Nadolig 2017.

Cyfrol gan y prifardd Idris Reynolds am y bardd a’i ffrind Dic Jones, Cofio Dic, gipiodd y prif wobr Cymraeg, ac Alys Conran a’i nofel Pigeon enillodd y brif wobr Saesneg.

Mae modd gweld yr holl ganlyniadau yma.