Mae arweinyddion prif bleidiau’r Cynulliad wedi rhoi teyrngedau i’r Aelod Cynulliad, Carl Sargeant prynhawn ma.

Â’r Aelodau Cynulliad wedi ymgynnull yn siambr y Senedd, cafodd munud o dawelwch ei gynnal i’r diweddar weinidog, cyn i’r aelodau gymryd eu tro i roi teyrngedau iddo.

Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, siaradodd yn gyntaf trwy rannu atgofion am Carl Sargeant, a nodi fod “ei bresenoldeb yn amlwg i bawb”.

“Trwy gydol yr amser wnaethon ni nabod ein gilydd, wnaethon ni erioed ffraeo,” meddai  Carwyn Jones.

“Roedd yn berson llawen ond penderfynol, cadarn ond yn hwyl. Bydd ei deulu, yr unigolion sydd yma yn y siambr, a’r genedl yn gweld ei eisiau.”

“Ysbrydoliaeth”

Dywedodd Andrew RT Davies o’r Ceidwadwyr bod Carl Sargeant yn “ysbrydoliaeth” a galwodd y gweinidog yn “un o’r bobol fwyaf gonest dw i wedi cael y fraint o gwrdd”.

“Roedd Carl yn gymeriad ond mi roedd e hefyd yn unigolyn dwys, a gyda dealltwriaeth o’i rôl o fewn y sefydliad yma,” meddai Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Bydd ei ddylanwad yn para am ddegawdau. Gobeithiaf y bydd golau dydd yn disgleirio trwodd i deulu Carl cyn gynted ag sy’n bosib.”

“Dyn dosbarth gweithiol”

“Roedd e’n ddyn dosbarth gweithiol i’r carn, wedi’i wreiddio yn ei gymuned,” meddai Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

“Byth yn anghofio amdanyn nhw, bob tro’n gweithio drostyn nhw … Byddech chi erioed wedi medru ei gyhuddo o golli persbectif ar bethau.”

“Colli aelod teilwng”

Mi wnaeth Neil Hamilton groesawu’r ymchwiliad i’w farwolaeth gan fynnu bod y Cynulliad “oll” wedi methu yn eu dyletswydd i ofalu amdano.

“Er nad ydym ni’n gwybod y manylion llawn, doedd Carl ddim yn haeddu dioddef yn y modd y gwnaeth,” meddai Arweinydd UKIP yng Nghymru, Neil Hamilton.

“Mae’n hawdd i’r cyhoedd anghofio bod gwleidyddion yn fodau dynol … Mae’r Cynulliad wedi colli aelod teilwng. Ac mae Cymru wedi colli mab arobryn.”