Mae RSPCA Cymru wedi rhybuddio pobol i ymchwilio cyn prynu anifeiliaid anwes egsotig, a hynny wedi i neidr gael ei chanfod mewn system garthffosiaeth ger Caernarfon.

Mi gafodd y neidr corn Carolina ei chanfod gan un o weithwyr Dŵr Cymru yn systemau gwaith trin y dŵr yng Nghaernarfon yr wythnos diwethaf (Tachwedd 9).

Mae’n ymddangos y gallai’r neidr fod wedi dianc neu gael eu golchi i lawr y tŷ bach gan rywun.

Mae RSPCA Cymru wedi cadarnhau fod y neidr yn cael triniaeth ac nad oes niwed wedi’i achosi, ond maen nhw’n rhybuddio fod angen i bobol fod yn wyliadwrus am yr heriau o ofalu am anifeiliaid o’r fath.

“Mae hwn yn nodyn atgoffa amserol arall i’r heriau o ofalu am anifeiliaid anwes egsotig fel nadroedd,” meddai Andrew Broadbent, arolygydd RSPCA Cymru.

“Mae’n hollbwysig fod y llety yn addas ac yn ddiogel ar eu cyfer.”

Mae’n galw ar un rhyw un sydd â gwybodaeth am berchennog y neidr i gysylltu ag RSCPA Cymru.